Exodus 36

1“Felly mae Betsalel, Aholïab a'r crefftwyr eraill mae Duw wedi eu donio i wneud y gwaith o godi'r cysegr, i wneud popeth yn union fel mae'r Arglwydd wedi dweud.”

Trosglwyddo'r rhoddion i'r crefftwyr

2Dyma Moses yn galw Betsalel ac Aholïab ato, a'r crefftwyr eraill roedd yr Arglwydd wedi eu donio – pob un oedd wedi ei sbarduno i wirfoddoli i helpu. 3A dyma Moses yn rhoi iddyn nhw yr holl roddion roedd pobl Israel wedi eu hoffrymu i'r gwaith o godi'r cysegr.

Ond roedd y bobl yn dod â mwy roddion gwirfoddol iddo bob bore. 4Felly dyma'r crefftwyr oedd yn gweithio ar y cysegr yn gadael eu gwaith, 5a dweud wrth Moses, “Mae'r bobl wedi dod â mwy na digon i orffen y gwaith mae'r Arglwydd wedi gofyn i ni ei wneud!” 6Felly dyma Moses yn anfon neges allan drwy'r gwersyll, “Does dim angen mwy o bethau i'w cyflwyno'n rhoddion tuag at adeiladu'r cysegr!” Roedd rhaid stopio'r bobl rhag dod â mwy! 7Roedd mwy na digon o bethau ganddyn nhw i wneud y gwaith i gyd.

Codi'r Tabernacl

(Exodus 26:1-37)

8Dyma'r crefftwyr i gyd yn gwneud y Tabernacl gyda deg llen o'r lliain main gorau gyda lluniau o geriwbiaid wedi eu dylunio'n gelfydd a'u brodio gydag edau las, porffor a coch. 9Roedd pob llen yn un deg dau metr o hyd, a dau fetr o led – i gyd yr un faint. 10Yna dyma bump o'r llenni yn cael eu gwnïo at ei gilydd, a'r pump arall yr un fath. 11Wedyn gwneud dolenni o edau las ar hyd ymyl llen olaf pob set – 12hanner cant o ddolenni ar bob un, fel eu bod gyferbyn a'i gilydd. 13Wedyn gwneud hanner can bachyn aur i ddal y llenni at ei gilydd, fel bod y cwbl yn un darn.

14Wedyn gwneud llenni o flew gafr i fod fel pabell dros y Tabernacl – un deg un ohonyn nhw. 15Roedd pob llen yn un deg pump metr o hyd a dau fetr o led – i gyd yr un faint. 16Yna gwnïo pump o'r llenni at ei gilydd, a gwnïo'r chwech arall at ei gilydd hefyd. 17Yna gwneud hanner can dolen ar hyd ymyl llen olaf pob set, 18a hanner can bachyn i ddal y llenni at ei gilydd, a gwneud y cwbl yn un darn.

19Wedyn gwneud gorchudd dros y babell wedi ei wneud o grwyn hyrddod wedi eu llifo'n goch. Ac wedyn gorchudd o grwyn môr-fuchod dros hwnnw.

20Yna cafodd fframiau'r Tabernacl eu gwneud allan o goed acasia, pob un yn sefyll yn unionsyth. 21Roedd pob un yn bedwar metr o hyd, a 66 centimetr o led, 22gyda dau denon ar bob un i'w cysylltu â'i gilydd. Roedd y fframiau i gyd wedi eu gwneud yr un fath. 23Roedd dau ddeg ffrâm ar ochr ddeheuol y Tabernacl, 24a pedwar deg soced arian i ddal y fframiau – dwy soced i'r ddau denon ar bob ffrâm.

25Wedyn dau ddeg ffrâm ar ochr arall y Tabernacl, sef yr ochr ogleddol, 26gyda pedwar deg soced i'w dal nhw – dwy soced dan bob ffrâm.

27Yna chwe ffrâm i gefn y Tabernacl, sef y pen gorllewinol, 28a dau ffrâm ychwanegol i'r corneli yn y cefn. 29Yn y corneli roedd y ddau ffrâm yn ffitio gyda'i gilydd ar y gwaelod, ac yn cael eu dal gyda'i gilydd gan gylch ar y top. Roedd y ddwy gornel yr un fath. 30Felly roedd wyth ffrâm gydag un deg chwech o socedi arian – dwy soced dan bob ffrâm.

31Wedyn gwneud croesfarrau o goed acasia – pump i'r fframiau bob ochr i'r Tabernacl, a pump i fframiau cefn y Tabernacl sy'n wynebu'r gorllewin. 33Roedd y croesfar ar ganol y fframiau yn ymestyn o un pen i'r llall. 34Yna gorchuddio'r fframiau gyda haen o aur, a gwneud cylchoedd o aur i ddal y croesfarrau, a gorchuddio'r croesfarrau gydag aur hefyd.

35Wedyn gwneud llen arbennig o'r lliain main gorau, gyda lluniau o geriwbiaid wedi eu dylunio'n gelfydd a'u brodio gydag edau las, porffor a coch. 36A gwneud pedwar polyn o goed acasia, wedi eu gorchuddio gydag aur, bachau aur i hongian y llen, a pedwar o socedi arian i osod y polion ynddyn nhw. 37Yna gwneud sgrîn ar gyfer y fynedfa i'r babell. Hon eto wedi ei gwneud o'r lliain main gorau, ac wedi ei brodio gydag edau las, porffor a coch. 38Yna gwneud pump polyn o goed acasia, a'r bachau aur. Gorchuddio top y polion gydag aur, a gwneud socedi o bres iddyn nhw.

Copyright information for CYM